Llwyd-OlearyM5@hwbcymru.net
Y tymor hwn rydym yn canolbwyntio ar ddatblygiad personol, cymdeithasol a lles y plant. Yn ein gwersi mathemategol byddwn yn edrych ar werth lle, cyfrifiadau amrywiol, arian, ffracsiynau a mesuriadau. Bydd ein gwersi iaith yn canolbwyntio ar ramadeg, atalnodi ac ysgrifennu dyddiadur. Yn ystod ein gwersi gwyddoniaeth byddwn yn dysgu am y corff dynol. Thema’r tymor yw ‘Ein Hardal Leol’ a byddwn yn astudio hanes gwych Pontyberem yn ogystal â dysgu am y pentref yn 2020.
Gofynnwn yn garedig i chi wrando ar eich plentyn yn darllen gan gofio trafod cynnwys y testun.
Dyma linciau i wefan HWB a TTRockstars.

Dydd
|
Llun
|
Mawrth
|
Mercher
|
Iau
|
Gwener
|
|
|
|
Ymarfer Corff
|
|
Chwaraeon
|