ReesJ402@hwbcymru.net

Yn ystod y tymor yma rydym yn ffocysu ar ddatblygu sgiliau Personol, Cymdeithasol a Lles y disgyblion. Bydd ein gwaith gwyddonol yn seiliedig ar y thema 'Tyfu'. O fewn ein gwersi mathemateg byddwn yn edrych ar rif, mesur, arian, patrwm, cymesuredd, siâp a safle. Yn ein gwersi iaith byddwn yn dysgu a datblygu sgiliau Tric a Chlic a phatrymau iaith.
Mae ymarfer corff ar ddydd Iau. Gall pob disgybl gwisgo dillad ymarfer corff (siorts/jogyrs, treinyrs, crys t a siwmper ysgol) i'r ysgol os gwelwch yn dda.
Mercher Mwdlyd - Gallwch chi ddanfon esgidiau glaw a gwisg gwrth-ddwr i'r ysgol os gwelwch yn dda.
Dyma ap Tric a Chlic (am ddim) i chi lawrlwytho a defnyddio adref.
Dyma linc i wefan Hwb. Bydd pob plentyn yn derbyn cyfrinair i fynd adref. Rydyn yn defnyddio Just 2 Easy - JIT i ddysgu sgiliau codio, creu lluniau, animeiddio ayyb.

http://hwb.gov.wales