Cyflwynir y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghyfnod Allweddol 2.
Rhennir y cwricwlwm yn ddwy ran sef y pynciau craidd a’r pynciau sylfaenol.
Craidd - Cymraeg, Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth.
Sylfaenol - Hanes, Daearyddiaeth, Cerddoriaeth, Addysg Gorfforol, Celf, Technoleg Gwybodaeth, Dylunio a Thechnoleg.
Cymerir Addysg Grefyddol fel testun ychwanegol ar draws yr ysgol gyfan.
Cyflwynir y rhan helaeth o’r cwricwlwm trwy gyfrwng chwech o themâu trawsgwricwlaidd, sydd yn cael eu newid bob tymor. Addysgir rhai agweddau o’r cwricwlwm tu allan i ffiniau thema er mwyn sicrhau gosod seiliau cadarn yn enwedig yn y sgiliau elfennol megis Iaith a Mathemateg.
Yn ogystal ag astudio’r themâu rhoddir sylw dyledus gan bob dosbarth i ddigwyddiadau tymhorol megis:- Y Cynhaeaf, Nadolig, Gŵyl Ddewi a’r Pasg.