Mae’r ysgol yn ymfalchïo yn ei thraddodiad cerddorol a’r hyn mae’r plant wedi cyflawni ym myd cerddoriaeth.
Byddant yn cael y cyfle i gyd ganu drwy ddysgu nifer helaeth o ganeuon ac emynau.
Yn ogystal, darparwn brofiadau cerddorol sy’n eu galluogi i ymuno yn, ac i werthfawrogi cerddoriaeth eang.
Mae pob plentyn o flwyddyn 3 i 6 yn derbyn gwersi recorder fel rhan o gwrs addysg yr ysgol. Disgwylir i bob plentyn i brynu ei recorder ei hun.
Ceir ymweliadau wythnosol gan athrawon cerdd peripatetig a chaiff y plant gyfle i ddysgu canu offerynnau pres, gitâr, ffidil a chwythbrennau. Ni chodir tâl am wersi offerynnau cerdd.
Mae côr yr ysgol yn ogystal â’r partïon canu a cherdd dant wedi ymddangos yn eisteddfodau’r Urdd yn ogystal â mewn nifer o gyngherddau lleol ac ar y teledu.
Yn flynyddol mae plant o’r ysgol yn cymryd rhan yn y Proms cerddorol yng Nghaerfyrddin.